TAC yn siomedig â phenderfyniad Channel 4 ar leoliad canolfannau’r tu hwnt i Lundain
31 October 2018
Mae TAC wedi ymateb i’r cyhoeddiad na fydd Channel 4 yn sefydlu un o’i ganolfannau newydd y tu hwnt i Lundain yng Nghaerdydd.
Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC: “Rydyn ni’n siomedig fod Channel 4 wedi penderfynu peidio sefydlu canolfan yng Nghymru. Fodd bynnag, nawr fod gan y darlledwr well ymwybyddiaeth o amrywiaeth a safon y cwmnïau cynhyrchu sy’n gweithio ledled Cymru, rydyn ni’n gobeithio daw rhagor o gyfleoedd i’r cwmnïau rheiny ddarparu cynnwys llwyddiannus a phoblogaidd i Channel 4. Edrychwn ymlaen at drafod eu strategaeth yn y maes hwn gyda nhw.”
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW