Ymateb TAC i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ddyfodol Channel 4

14 July 2017

Galw am wariant o 19% gan Channel 4 y tu hwnt i Loegr ac am bresenoldeb parhaol i’r sianel yng Nghymru

Mae TAC wedi cyhoeddi ei gyflwyniad diweddar i ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU ar ddyfodol Channel 4.

Nid yw’r corff yn galw am adleoliad llwyr i Channel 4 o Lundain, ac mae’n dadlau mai’r ffactor hanfodol wrth sicrhau bod Channel 4 yn ymgysylltu â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yw lefel gwariant y sianel yno, yn ogystal â lefel yr ymgysylltiad rhwng comisiynwyr ei raglenni a’r sector annibynnol yng Nghymru.

Ymhlith yr hyn mae TAC yn galw amdano, mae:

  • Graddoli’r cynnydd mewn gwariant y tu hwnt i 9% gorfodol cyfredol Channel 4 erbyn 2020, i gyrraedd targed o 15% erbyn 2025 a 19% erbyn 2030.
  • Ei gwneud yn ofynnol i Channel 4 gyhoeddi amserlen flynyddol o gyfarfodydd comisiynu rheolaidd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn cynnwys De a Gogledd Cymru, gyda chomisynwyr ym mhob genre.
  • Sefydlu presenoldeb parhaol i’r darlledwr yng Nghymru, naill ai ar ffurf staff comisiynu, neu gydlynydd o’r sector annibynnol i sicrhau bod cynhyrchwyr yng Nghymru’n ymwneud â’r sianel ar yr un telerau â phawb arall.

Dywedodd Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick: “Mae ymateb cychwynnol Channel 4, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dangos cyn lleied mae’r sianel yn ei wneud i ymgysylltu â’r sector yng Nghymru. Dau ddigwyddiad yn unig a gynhaliwyd ganddi dros y flwyddyn yn 2016, mewn nifer gyfyngedig o genres, ac yng Nghaerdydd y cynhaliwyd y ddau.”

“Un peth sydd wedi dod yn eglur yn ystod y broses hon yw nad yw cynnal y sefyllfa fel y mae hi’n ddichonadwy. Hoffem ofyn i’r Llywodraeth yn San Steffan roi llai o sylw i leoliad pencadlys Channel 4 a mwy i ymhle a sut mae’n gwario’i arian. Y ffordd allweddol o sicrhau bod Channel 4 yn cynrychioli’r DU mewn modd mwy effeithlon yw cynnig cyfle teg i gwmnïau cynhyrchu annibynnol o bob cwr o’r DU gyflwyno’u syniadau a derbyn comisiynau gan y sianel.”

Gallwch ddarllen ymateb llawn TAC yma.

DIWEDD

Cysylltu               Tim Wilson – 07909 560374

Cysylltu â ni