Taliadau S4C dros gyfnod symud i’r Egin

7 September 2018

Nodyn i Gynhyrchwyr

Gan fod S4C yn adleoli ei phencadlys i Ganolfan S4C yr Egin y mis hwn, dyma fydd trefn taliadau dros y tair wythnos nesaf:

  • Dydd Llun 10/09/2018 fel arfer
  • Dydd Iau 13/09/2018 i gymryd lle’r taliadau arferol ddydd Llun 17/09/2018. Plis anfonwch eich anfonebau at yr adran Gyllid drwy’r cyfeiriad e-bost taliadau@s4c.cymru erbyn 5 o’r gloch dydd Mercher 12/09/2018.
  • Fydd dim taliadau ddydd Llun 17/09/2018
  • Dydd Llun 24/09/2018 fel arfer

Cysylltwch â Dafydd Franklin yn yr adran Gyllid os oes gennych unrhyw ymholiad ynglŷn â’r trefniant hwn.

Diolch am eich cydweithrediad.

Cysylltu â ni