Teyrnged i aelod blaenllaw o Gyngor TAC

15 August 2017

Mae’n dristwch mawr gan TAC glywed am farwolaeth ddisymwth Gethin Wyn Thomas o gwmni cynhyrchu Zeitgeist. Bu Gethin yn aelod brwd o TAC ac yn aelod gweithgar o’r Cyngor ers 2009 mewn cyfnod pwysig a chyfnewidiol ym myd y cyfryngau yng Nghymru.

Dywedodd Iestyn Garlick, Cadeirydd TAC: ‘Rydyn ni fel corff, a’r sector cynhyrchu annibynnol ehangach, yn estyn cydymdeimlad dwys i deulu, cydweithwyr a chyfeillion Gethin ar adeg affwysol o drist. Roedd ei gyfraniad at fyd comedi Cymru, a’i bortread ohono ar radio a theledu, yn un gwerthfawr y byddwn yn cofio amdano â hoffter a gwên. Roedd Gethin yn ddyn brwdfrydig a bywiog, ac mi fydd colled fawr ar ei ôl.’

Cysylltu â ni