Teyrnged i Euryn Ogwen Williams
17 March 2021
Mae’n dristwch mawr gan TAC glywed am farwolaeth Euryn Ogwen Williams, un o gewri diwydiant y cyfryngau yng Nghymru. Roedd yn arloeswr gydol oes, yn gefnogwr brwd i’r sector annibynnol ac yn gyfaill agos i nifer o’n haelodau. Roedd ei angerdd dros sefydlu S4C a’i weledigaeth am ei dyfodol yn ysbrydoliaeth ac yn ysgogiad i fyd y cyfryngau yng Nghymru dros y deugain mlynedd diwethaf, ac mae ein dyled iddo yn fawr am ei gyfraniad craff, ei frwdfrydedd heintus a’i gefnogaeth hael.
Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC: “Roedd Euryn yn gawr llawn gweledigaeth a’i gyfraniad at ddarlledu yng Nghymru yn aruthrol dros sawl degawd – yn gyfarwyddwr rhaglenni cyntaf S4C pan lansiwyd y sianel yn 1982, ac mor ddiweddar â 2017, cafodd ei benodi gan Lywodraeth y DU i arwain adolygiad annibynnol o waith S4C ynghyd â chynnig cyfres o argymhellion ar gyfer dyfodol y sianel. Bu’n arwain, yn ymgynghori, yn cefnogi, yn cynnig cyfleoedd a chymorth i gymaint o bobl ac yn atgyfnerthu bob tro pwysigrwydd darlledu yn yr iaith Gymraeg a rôl y sector cynhyrchu annibynnol. Mae ganddom ddyled enfawr iddo. Wrth i ni agosáu at benblwydd S4C yn 40 y flwyddyn nesaf, fe gofiwn am ŵr cynnes, hael, parod ei gymwynas yr oedd ganddo weledigaeth glir a chadarn am ddarlledu yng Nghymru. Fe gofiwn am un o sylfaenwyr disglair S4C ac fe gofiwn am arloeswr heb ei ail.ʺ
Roedd yn ddyn diwylliedig i’r carn, ac roedd ei ffydd a’i deulu’n bwysig iddo yn anad dim. Bu’n barddoni drwy gydol cyfnod y pandemig, ac mae ei gerddi cynharach yn y ddwy gyfrol ‘Tywod a Sglodion’ a ‘Pelydrau Pell’. Roedd yn un o hoelion wyth Cymrodorion y Barri, ei gartref ers blynyddoedd maith, a bydd y gymuned glós hon yn gweld ei eisiau’n fawr.
Mynegwn ein cydymdeimlad dwys i Jenny, Rhodri, Sara a’r wyrion. Bydd aelodau TAC, y sector cynhyrchu, S4C a’r byd darlledu yng Nghymru’n cofio am Euryn yn bell i’r dyfodol. Diolch iddo am bob dim.
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW