Teyrnged TAC i Aled Glynne Davies

5 January 2023

Roedd yn dristwch mawr gan TAC glywed am farwolaeth y golygydd a’r cynhyrchydd teledu a radio adnabyddus Aled Glynne Davies. Bu Aled a’i wraig Afryl yn aelodau brwd o TAC drwy eu cwmni, Goriad, ac roedd Aled yn credu’n gryf fod undod ymhlith cwmnïau cynhyrchu Cymru yn greiddiol i barhad a chynnydd y sector annibynnol. Bu Aled hefyd yn cydlynu ac arwain sawl gweithdy hyfforddiant i TAC dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd ei ddealltwriaeth o faes cydymffurfiaeth darlledu, a’i frwdfrydedd dros rannu profiad a gwybodaeth yn rhan hanfodol o lwyddiant y sesiynau.

Dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC:

“Rydyn ni i gyd yn TAC yn estyn cydymdeimlad dwys i Afryl, Gruffudd a Gwenllian a’r teulu i gyd ar yr adeg anodd hwn. Roedd rôl Aled fel Golygydd Radio Cymru am dros ddegawd yn allweddol i dwf y gwasanaeth, ac roedd ei waith arloesol wrth arwain tîm i sefydlu darpariaeth gyntaf newyddion Cymraeg ar-lein, Cymru’r Byd, yn arwydd o’i ymrwymiad i gadw’r Gymraeg yn fyw drwy gyfrwng pob technoleg newydd posib. Roedd Aled yn ddyn caredig, annwyl oedd yn mwynhau sgwrsio a chwerthin wrth drafod pob pwnc dan haul. Byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr iawn.”

Cysylltu â ni