>

Uchafbwyntiau digwyddiadau Eisteddfod Genedlaethol Bodedern, Ynys Môn

31 July 2017

Dyma ddigwyddiadau a allai fod o ddiddordeb i chi yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Mae pabell Sinemaes yn cynnig arlwy eang o ddangosiadau a dathliadau sy’n ymwneud â’r sector darlledu gydol yr wythnos. Dyma rai o’r pigion.

Dydd Llun 7 Awst, 3:00pm, Sinemaes: Dangosiad a dathlu 20 mlynedd o ‘Ffermio’ gyda phanel trafod gyda chynrychiolaeth o Telesgop, y cwmni cynhyrchu

Dydd Llun 7 Awst, 7:30pm, Sinemaes: Dangosiad arbennig o ‘Hedd Wyn’

Dydd Mawrth 8 Awst, 11:00, : RTS Cymru sydd wedi trefnu ymweliad egscliwsif â set Rownd a Rownd (Rondo Media) ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Cysylltwch â Hywel Wiliam am fanylion pellach ac i gadw lle, yn rhad ac am ddim

Dydd Mawrth 8 Awst, 12:30 pm, Sinemaes: Trafodaeth banel TAC – S4C a darlledu digidol y dyfodol

Dydd Mercher 9 Awst, 5.30pm, S4C: Dathlu bywyd a gwaith Peter Elias Jones (HTV ac Antena gynt)

Dydd Mercher 9 Awst, 6:30pm, Sinemaes: Dangosiad o ‘Pum Cynnig i Gymro’ (er cof am Peter Edwards)

Dydd Gwener 11 Awst, 1:00pm, Sinemaes: Dangosiad cyntaf o bennod newydd o ‘Deian a Loli’ gyda chynhyrchwyr o Cwmni Da ac aelodau’r cast

Amserlen Sinemaes yn ei chyfanrwydd

Mae dros 1,000 o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal i gyd. Dyma ganllaw defnyddiol i’ch helpu i gynllunio. Mwynhewch!

Cysylltu â ni