Y sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru’n galw ar Rona Fairhead am eglurhad ar ddyfodol rheoleiddio S4C
6 March 2015
Heddiw, mae TAC wedi ymateb i araith gan Rona Fairhead, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, lle’r oedd hi’n amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer rheoleiddio’r BBC yn y dyfodol.
Dywedodd Rona Fairhead fod yna ‘llinellau aneglur’ rhwng yr Ymddiriedolaeth a’r Gorfforaeth, ac y byddai’r rhain ond yn cael eu gwneud yn gliriach drwy fwy o arwahanrwydd rhwng y ddau.
Felly galwodd am fwrdd unedol i’r BBC, a rheoleiddiwr llwyr ar wahân i asesu ei berfformiad yn erbyn meini prawf penodol.
Roedd cynnig Rona Fairhead yn canolbwyntio i raddau helaeth ar reoleiddio’r BBC, ond wrth ymateb i’r araith, dywedodd Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick:
“Mae hyn yn anwybyddu’r ffaith bod gan Ymddiriedolaeth y BBC swydd oruchwylio dros ddarlledwr arall, wrth i S4C dderbyn arian oddi wrth y Ffi Drwydded.”
“Mae adroddiad diweddar Pwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar y BBC y bu Ms Fairhead yn ei ganmol, yn datgan yn glir y dylai S4C barhau i fod ag annibynniaeth golygyddol a rheolaethol.”
“Gall Ymddiriedolaeth y BBC deimlo taw manylyn bach ydy hwn, ond mae gan y cynigion newydd hyn oblygiadau sylweddol ar allu S4C i bennu ei llwybr ei hun wrth edrych i’r dyfodol. Byddwn yn ysgrifennu at Ms Fairhead i ofyn lle mae hi’n gweld S4C yn eistedd o fewn y trefniant newydd hwn.”
Ychwanegodd: “Yn y pen draw, er mwyn osgoi’r math yma o driniaeth o S4C fel rhywbeth eilradd, cynnig TAC ydy bod S4C yn mynd yn ôl i gael ei hariannu o’r pwrs cyhoeddus, ac ar lefel uwch nag ar hyn o bryd, fel fod ei rheoleiddio unwaith eto yn gwbl ar wahân i’r BBC.”
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW