>

Ymateb sector cynhyrchu teledu Cymru i Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar Ddarlledu ‘Nesaf’

28 April 2022

Heddiw, gwnaeth Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC, sy’n cynrychioli cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru, ymateb i gyhoeddiad Papur Gwyn Lywodraeth y DU:

“Rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i ddiogelu’r gyfundrefn telerau masnach presennol, sydd wedi arwain at lwyddiant ysgubol y sector cynhyrchu teledu annibynnol yn y DU drwy ganiatáu iddynt fanteisio’n llawn ar eu heiddo deallusol.

Rydym hefyd yn croesawu’r ymrwymiad i sicrhau amlygrwydd darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar ystod ehangach o lwyfannau, a fydd yn helpu ein holl ddarlledwyr darlledu gwasanaeth cyhoeddus gan gynnwys S4C.

Rydym yn nodi’r penderfyniad i ddiwygio cylch gwaith Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus a byddwn yn edrych ymlaen at ymgysylltu ar hynny dros ystod y misoedd nesaf.

Fodd bynnag, mae dileu statws cyhoeddwr-ddarlledwr Channel 4 yn peri pryder, gan ei fod yn fuddsoddwr sylweddol mewn cynyrchiadau annibynnol a thalent newydd ledled y DU. Tra bod y Llywodraeth yn dweud y bydd ymrwymiadau Channel 4 y tu allan i Lundain yn parhau, nid yw’n glir sut bydd hyn yn cael ei gyflawni os yw’n gwneud hyd at 75% o’i chynnwys yn fewnol, a fydd yn anochel mewn nifer gymharol fach o ganolfannau cynhyrchu.

Yn 2019 cyfrannodd Channel 4 £20m i Werth Ychwanegol Crynswth (GVA) yng Nghymru gan gefnogi 200 o swyddi. Mae buddsoddiad cychwynnol Channel 4 mewn cwmnïau cynhyrchu o Gymru yng Ngogledd a De Cymru wedi tyfu a datblygu busnesau creadigol. Byddwn felly yn ceisio trafod manylion y cynigion hyn gyda’r Llywodraeth, cyn unrhyw ddeddfwriaeth.”

Cysylltu â ni