Ymateb TAC i adroddiadau newyddion am breifateiddio Channel 4

5 January 2023

Wrth ymateb i’r newyddion bod yr Ysgrifennydd Diwylliant Michelle Donelan wedi cynghori yn erbyn preifateiddio Channel 4, dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC:

“Er nad yw’r newyddion yma wedi’i gadarnhau yn swyddogol eto, byddai TAC yn croesawu pe bai Llywodraeth y DU yn penderfynu peidio preifateiddio Channel 4 gan ein bod wedi ymgyrchu’n galed yn erbyn y cam hwn.  Byddem hefyd yn croesawu ymrwymiadau Channel 4 i’r cenhedloedd a’r rhanbarthau a hefyd y cynnydd i’w wariant ar hyfforddiant.

Fodd bynnag pe bai, fel yr adroddwyd, bod model cyhoeddwyr-darlledwr Channel 4 yn cael ei lacio, byddai hyn yn peri pryder i’r sector gynhyrchu annibynnol, gan y byddai’n lleihau’r cyfle iddo wneud rhaglenni i’r darlledwr.  Gallai hyn greu ansicrwydd economaidd i rai cwmnïau yn y sector, yn enwedig cwmnïau llai.

Byddwn yn ceisio trafodaethau gyda Channel 4 a Llywodraeth y DU ar y mater hwn yn y gobaith gellir ystyried hyn ymhellach cyn iddo fynd i ddeddfwriaeth.”

Cysylltu â ni