>

Ymateb TAC i benderfyniad Llywodraeth y DU ar breifateiddio Channel 4

6 January 2023

Wrth ymateb i’r cadarnhad fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu yn erbyn preifateiddio Channel 4, dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC:

“Mae TAC yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio preifateiddio Channel 4, ac rydym wedi ymgyrchu’n galed yn erbyn y cam hwn.

Rydym hefyd yn croesawu unrhyw gynnydd yn ymrwymiadau Channel 4 i’r cenhedloedd a’r rhanbarthau a byddem o blaid cynyddu ei wariant ar hyfforddiant.  Mae’n bwysig bod y sector gynhyrchu yng Nghymru yn gweld manteision y gweithgaredd estynedig hwn, ochr yn ochr ag ardaloedd eraill o’r DU.

Fodd bynnag, mae pryderon am y cynnig bod model cyhoeddwyr-darlledwr Channel 4 yn cael ei lacio, gan y byddai hynny’n lleihau’r cyfleoedd i’r sector cynhyrchu annibynnol wneud rhaglenni ar gyfer y darlledwr.  Gallai hyn greu ansicrwydd economaidd i rai cwmnïau yn y sector, yn enwedig cwmnïau llai.

Rydym yn falch bod Michelle Donelan, Ysgrifennydd Gwladol DCMS wedi ymrwymo i ymgynghori â’r diwydiant ac mae TAC yn edrych ymlaen at chwarae rhan lawn yn y broses honno.  Rydym angen sicrhau bod Channel 4 yn parhau i fod yn sbardun sylweddol i’r sector gynhyrchu annibynnol yng Nghymru.”

Cysylltu â ni