Ymateb TAC i benderfyniad y BBC ar Ffi’r Drwydded Deledu i bobl dros 75 oed

12 June 2019

Mewn ymateb i benderfyniad y BBC i gyplysu gostyngiad yn Ffi’r Drwydded Deledu i bobl dros eu 75 oed â’r Credyd Pensiwn, dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC:

“Roedd hwn yn benderfyniad anodd iawn i’r BBC ei wneud wrth gloriannu anghenion pobl hŷn ochr yn ochr â’i brif nod o wario arian o Ffi’r Drwydded Teledu ar gynnwys o safon uchel a chynnyrch atodol. Mae gwahaniaeth mawr rhwng yr effeithiau posibl ar wasanaethau’r BBC o orfod gweithredu toriadau o £250m a thoriadau o £750-£800m. Fwy na thebyg y byddai’r arbedion wedi golygu cau gwasanaethau cyfan, yn groes i ddyletswyddau’r BBC o dan delerau’r Siarter mae Llywodraeth y DU wedi ei gosod i’r gorfforaeth. Byddai hyn wedi amddifadu cynulleidfaoedd o gynnwys darlledu cyhoeddus na fyddai ar gael yn unrhyw le arall.

“Yn y cyd-destun hwn, mae’r polisi mae’r BBC wedi ei gyhoeddi i’w weld yn gytbwys ac yn deg. Yn amlwg, mae’n hanfodol fod cefnogaeth addas ar gael i’r sawl sy’n methu fforddio talu’r Ffi Drwydded, ac mae’n addas i fod yn gynhwysol wrth gyplysu’r anghenion hyn â chynllun Credyd Pensiwn Llywodraeth y DU.

“Nawr fod y penderfyniad hwn wedi ei wneud, gall y BBC fwrw ymlaen i gadarnhau ei strategaeth comisiynu. Rydyn ni’n gobeithio bydd y BBC yn parhau i fuddsoddi mewn cynyrchiadau o Genhedloedd a Rhanbarthau’r DU, yn enwedig yng Nghymru, lle mae sector cynhyrchu ffyniannus yn parhau i greu rhaglenni o safon uchel ym mhob genre.”

 

Cysylltu â ni