>

Ymateb TAC i’r penderfyniad i breifateiddio Channel 4

5 April 2022

Mae TAC, y corff diwydiant ar gyfer y sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru wedi cyhoeddi heddiw y datganiad canlynol ar fwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio Channel 4:

Dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC:

“Mae hyn yn newyddion siomedig iawn, gan nad oes tystiolaeth i ddangos yr angen am y symudiad eithafol hwn ac rydym yn credu’n gryf y bydd preifateiddio yn mynd â Channel 4 i gyfeiriad mwy masnachol, gan fygwth ei safle unigryw yn ecoleg y cyfryngau.

Mae Channel 4 wedi galluogi datblygu sector cynhyrchu annibynnol ffyniannus ac mae ymchwil yn dangos bod Channel 4 wedi cyfrannu £20m yn 2019 at y Gwerth Ychwanegol Crynswth (GVA) yng Nghymru ac wedi cefnogi 200 o swyddi. Mae buddsoddiad cychwynnol Channel 4 mewn cwmnïau cynhyrchu o Gymru yng Ngogledd a De Cymru wedi eu galluogi i dyfu a datblygu eu busnesau. Gall hyn cael ei golli os yw’n gadael perchnogaeth gyhoeddus ac yn ailffocysu ar ailddosbarthu elw i berchnogion a chyfranddalwyr preifat.

Gan edrych i’r dyfodol, bydd TAC yn ceisio sicrhau bod model cyhoeddwr-ddarlledwr Channel 4, sy’n gweithio gyda chymaint o gwmnïau cynhyrchu sefydledig a newydd ledled y DU, yn cael ei gadw. Mae angen i ni hefyd sicrhau nad yw Channel 4 yn dychwelyd i strwythur comisiynu sy’n canolbwyntio ar Lundain. Byddai parhau â’r strategaeth ‘ 4 All the UK’ yn cefnogi’r ymdrechion i sicrhau mwy o gynrychiolaeth ledled y DU ym maes teledu a chefnog anghydraddoldebau yn seiliedig ar leoedd.”

Cysylltu â ni