Telerau ac amodau
TELERAU AC AMODAU DEFNYDD GWEFAN www.tac.cymru
Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn eu cyfanrwydd cyn defnyddio’r Wefan hon os gwelwch yn dda. Os nad ydych chi’n derbyn yr amodau defnydd, peidiwch â defnyddio’r Wefan. Bydd parhau i ddefnyddio’r Wefan yn cadarnhau eich bod yn derbyn y cyfryw amodau.
MYNEDIAD I’R WEFAN
1.1 Nid oes rhaid cofrestru â ni er mwyn defnyddio’r rhan fwyaf o barthau’r Wefan hon.
[Noder, fodd bynnag, y bydd ambell barth dim ond yn hygyrch os ydych chi wedi cofrestru.]
DEFNYDD Y WEFAN
1.2 Gellir defnyddio’r Wefan hon at eich dibenion preifat yn unol â’r amodau defnydd hyn.
1.3 Mi gewch argraffu a lawrlwytho deunydd o’r Wefan hon ar yr amod nad ydych yn newid nac yn atgynhyrchu unrhyw gynnwys heb ganiatâd ysgrifenedig gennym ni ymlaen llaw.
AMSER MYNEDIAD I’R WEFAN
1.4 Gweithredir pob mesur rhesymol gennym i sicrhau bod y Wefan hon yn weithredol drwy’r dydd, bob dydd. O bryd i’w gilydd, fodd bynnag, bydd materion technegol yn golygu na fydd mynediad i’r wefan. Yn unol â hyn, ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw gyfnod pan na fydd modd cyrchu’r Wefan hon.
1.5 Byddwn bob amser yn ceisio rhoi rhybudd ymlaen llaw os cyfyd materion cynnal a chadw a fydd yn golygu nad oes mynediad i’r Wefan, ond nid oes rheidrwydd arnom i roi rhybudd o’r fath.
DEUNYDD WEDI EI DDARPARU GAN DDEFNYDDWYR
1.6 Ystyrir bod unrhyw gynnwys mae ymwelydd â’r Wefan hon yn ei anfon neu’n ei lwytho i’r Wefan yn ddi-berchennog a ddim yn gyfrinachol. Bydd gennym hawl i gopïo, datgelu, dosbarthu neu ddefnyddio’r cynnwys at berwyl arall fel y gwelwn yn addas, ac eithrio manylion personol. Mae’r defnydd hwn yn ddarostyngedig i delerau ein Polisi Preifatrwydd.
1.7 Wrth ddefnyddio’r Wefan hon, ni chewch lwytho nac anfon at neu o’r Wefan hon unrhyw gynnwys:
(a) nad ydych wedi derbyn pob caniatâd angenrheidiol i’w ddefnyddio;
(b) sy’n gwahaniaethu neu sy’n anweddus, yn bornograffig, yn debygol o ennyn casineb hiliol, yn tarfu ar gyfrinachedd neu breifatrwydd, neu a all beri annifyrrwch neu anghyfleustra i eraill, sy’n annog neu’n ennyn ymddygiad y gellid ei ystyried yn droseddol, peri achos o atebolrwydd sifil neu sydd mewn modd arall yn wrthwynebol i’r gyfraith yn y Deyrnas Unedig;
(c) sy’n niweidiol ei hanfod, gan gynnwys, a heb gyfyngiad, firysau cyfrifiadur gan gynnwys rhai cudd, data llygredig neu unrhyw feddalwedd neu ddata arall a allai fod yn niweidiol.
1.8 [Mi fyddwn ni’n cydweithredu’n llawn ag unrhyw awdurdodau gorfodi’r gyfraith neu orchymyn llys sy’n gofyn i ni ddatgelu pwy yw unrhyw unigolion sy’n llwytho deunydd i’r wefan hon mewn gwrthwynebiad i Baragraff 1.7, a darparu manylion pellach amdanynt.]
DOLENNI I AC O WEFANNAU ERAILL
1.9 O bosib y gwelwch ddolenni i wefannau trydydd parti ar y Wefan hon. Nid yw darparu dolen o’r fath yn golygu ein bod yn cymeradwyo’r wefan honno. Os ydych yn dilyn dolen i wefan arall o’r Wefan hon, rydych yn derbyn mai eich risg chi yw honno.
1.10 Caiff unrhyw barti sy’n dymuno cysylltu â’r wefan hon wneud hynny dim ond iddynt gydymffurfio â’r amodau isod:
(a) nid ydych yn ceisio ensynio ein bod yn cymeradwyo gwasanaethau na chynnyrch parti arall os nad yw hyn wedi ei gymeradwyo gennym yn ysgrifenedig;
(b) nid ydych yn cam-gyfleu eich perthynas â’r Wefan hon; ac
(c) nad yw’r wefan rydych yn ei chysylltu â’r Wefan hon yn cynnwys deunydd tramgwyddus neu ddadleuol, na chynnwys sy’n tresmasu ar hawliau eiddo deallusol na hawliau eraill sy’n perthyn i drydydd parti.
1.11 Os byddwch yn cysylltu â’r Wefan mewn gwrthwynebiad i gymal 1.10 byddwch yn ein digolledu am unrhyw golledion neu niwed a achosir i’r Wefan hon o ganlyniad i gyswllt o’r fath.
YMWADIAD
1.12 Rydym yn gweithredu’r holl gamau rhesymol posibl i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gyfredol ac yn gywir bob amser, ond ni allwn warantu bod yr holl gynnwys yn gywir nac yn gyfredol.
1.13 Darperir yr holl ddeunydd ar y Wefan hon heb warant o unrhyw fath. Rydych chi’n defnyddio’r deunydd ar y Wefan hon fel y gwelwch yn ddoeth.
EITHRIO CYFRIFOLDEB
1.14 Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu niwed a achosir i chi yn sgil defnyddio’r Wefan hon.
1.15 Nid oes dim byd yn yr Amodau Defnydd hyn yn eithrio nac yn cyfyngu atebolrwydd am farwolaeth neu anafiadau personol a achosir gan esgeulustod na ellir mo’u heithrio nac yn unol â chyfraith y Deyrnas Unedig.
Y GYFRAITH AC AWDURDODAETH
Llywodraethir amodau defnydd y termau hyn gan gyfraith Lloegr a Chymru. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi sy’n ymwneud â’r amodau defnydd hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth neilltuedig Llysoedd Lloegr a Chymru.
EIN MANYLION
Enw ein busnes yw: Teledwyr Annibynnol Cymru
Cyfeiriad cofrestredig ein busnes yw:
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW
Our contact details are:
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Phone number: 07388 377 478
Email: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Phone number: 07443 276 977
Email: sioned.harries@tac.cymru
Cysylltu â ni
Sioned Haf Roberts – Rheolydd Cyffredinol
Rhif ffôn: 07388 377 478
Ebost: sionedhaf.roberts@tac.cymru
Sioned Harries – Swyddog Gweinyddol
Rhif ffôn: 07443 276 977
Ebost: sioned.harries@tac.cymru
Cyfeiriad
TAC
Rondo Media
Llawr 9
Southgate House
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW