Ymaelodi â TAC

rar

Mwyaf o aelodau fydd gan TAC, mwyaf o rym a gwell adnoddau fydd gennym i leisio barn a dylanwadu ar y darlledwyr a’r rheiny sy’n creu’r polisïau, oherwydd mae’r penderfyniadau hynny yn effeithio ar bob cwmni annibynnol cynhyrchu cynnwys yng Nghymru.

Mae Cyngor TAC yn gweithredu yn gwbl wirfoddol, felly mae tâl aelodaeth yn cael ei wario ar adnoddau a chefnogaeth i’r aelodau a’r diwydiant.

Mae gan TAC gytundebau gyda phum undeb – Equity, yr MU, WGGB, Directors UK a BECTU. Mae eu defnydd yn sicrhau’r hawliau angenrheidiol i alluogi defnydd cyfraniadau gweithwyr ar S4C a gwasanaethau cysylltiol, yn ogystal â gwerthiant byd-eang. Cytundebau TAC yw’r rhain,  ac mi ddylai pob cwmni sy’n eu defnyddio fod yn aelod o TAC. Yr hawl ecsgliwsif i ddefnydd y cytundebau yw un o fanteision pennaf aelodaeth.

10 mantais o fod yn aelod o TAC:

  • Cyfraddau gostyngol ar gyrsiau partneriaeth hyfforddiant TAC/S4C
  • Mynediad i gyngor busnes
  • Mynediad i gytundebau safonol (derbyniol gan ddarlledwyr)
  • Cyd-drafod cadarn gyda’r darlledwyr
  • Trafodaethau trydydd parti gydag S4C mewn achosion o anghydfod
  • Llais effeithiol i’r sector yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru
  • Trafod gyda chyrff rheoli darlledu
  • Cynrychiolaeth bositif o’r sector o fewn y cyfryngau
  • Hawl i fynychu digwyddiadau, gan gynnwys ein cyfarfod blynyddol llawn, lle trefnir siaradwyr profiadol o fyd darlledu a’r llywodraeth i annerch ein diwydiant yn uniongyrchol
  • Cyfleoedd i fynegi barn am ddarpariaeth hyfforddiant a sgiliau

Er mwyn trafod ymaelodi, cysylltwch â Chadeirydd TAC, Dyfrig Davies neu’r Rheolydd Cyffredinol Sioned Haf Roberts ar 07388 377478.

Cysylltu â ni